Llais Aled

 

Dydd Sul, 5ed o Hydref 2008

  

Bore da a chroeso i’r oedfaon. Heddiw rwyf wedi gwahodd Aron, ein myfyriwr newydd i ysgrifennu gair i gyflwyno ei hun.

 

Wel, Aron yw fy enw i, dw i’n dod o Benygroes, ardal Caernarfon, ac yn falch iawn o gael bod yn Llansannan y flwyddyn hon! Cefais fy magu mewn teulu Cristnogol, yn fab i weinidog, ac yn mynd i’r ysgol Sul ers fy mod yn gallu cofio. Roeddwn yn mynd i’r capel bob Sul, yn brydlon ac yn ffyddlon, ac ar y pryd dw i’n cofio meddwl fy mod i’n Gristion da. Ond pan yn 10 oed, fe ddes i ddeall mai cael perthynas gyda’r Iesu, a gofyn iddo faddau i mi am fy mhechodau, a dod i’m calon, ac i ganol fy mywyd oedd gwir ystyr bod yn Gristion. Felly ar ôl hynny, roedd fy mywyd yn hollol wahanol, am fy mod yn byw fel roedd Duw eisiau i mi fyw, ac roedd yn barod i’m helpu i wrth i mi fynd o ddydd i ddydd. Roedd cefnogaeth fy nheulu yn bwysig iawn i mi hefyd. Roedd fy rhieni (John a Helen) wastad yn fy annog i wneud pethau er mwyn i fi ddod i adnabod Iesu yn well. Roedd fy mrawd a dwy chwaer hefyd yn yr un cwch a fi, a hebddyn nhw, fasa na ddim Cristnogion eraill o gwmpas fy oedran i o gwbl.

 

Fe es i i ysgol gynradd Bro Lleu, ac ysgol uwchradd Dyffryn Nantlle(Penygroes), ac roedd y profiad yn un braf iawn, ar y cyfan! Fe astudiais Ffrangeg, Cerdd, Cymraeg a Drama fel Lefelau AS a Lefel A. Roeddwn i hefyd yn hoff iawn o weithio. Dechreuais fel gweinydd(waiter), ac yn fuan ar ôl hynny, fe symudais i’r gegin fel ‘Chef’.  Ar ôl fy lefelau A, fe symudais i’r Bala, i wneud blwyddyn gap yng Ngholeg Y Bala. Roedd y flwyddyn hon yn hollbwysig yn fy mywyd fel Cristion. Fe ddysgais lot fawr o bethau, yn ogystal â chael llawer o brofiadau mewn gwaith plant ac ieuenctid, a hefyd o arwain gwasanaethau mewn capeli. Ar ol deufis o fod yn y Bala, roeddwn yn gwybod fod yr Arglwydd yn dweud wrtha ‘i i geisio gwneud mwy o siarad mewn sesiynau gyda phlant ac ieuenctid, ond hefyd mewn gwasanaeth anffurfiol i bob oedran yn y Coleg, sef ColegyBala am 7. Felly dyna wnes i, fe wnes i’r bregeth yn y gwasanaeth yna, ac ar ôl teimlo’r wefr yna, a theimlo Duw yn dweud wrthyf mai dyma’r oeddwn i fod i’w wneud, ac ar ôl gweddïo mwy(!) roeddwn yn sicr fod Duw yn fy ngalw i’r weinidogaeth. Ar ôl ychydig fisoedd, roeddwn yn dechrau poeni, am nad oeddwn yn siŵr beth oedd y cam nesaf yn fy ngyrfa. Penderfynais ymgeisio am gwrs DAWN CYMRU, yn syml iawn, am ei fod yn cynnig yr union beth yr oeddwn i eisiau. Ar ôl cael cyfweliad, roedd gen i dangnefedd ynglŷn â’r cwrs, ac yn teimlo fod yr Arglwydd yn dweud wrthyf am fynd i Lansannan. Cefais fy nerbyn, ac ers hynny, fe orffennais y flwyddyn yn y Bala, a dwi’n byw yn y bwthyn yn Llwyn Derw, ac yn mwynhau yn fawr! Dwi’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’r eglwys, a phrofi’r hyn sydd gan yr Arglwydd ar fy nghyfer yma! 

 

Cofion

 

Yr ydym yn parhau i gyflwyno Charles Roberts, Penbrynllan a’i deulu i ofal yr Arglwydd, gan ddiolch i Dduw ei fod yn gwella, a chan hyderu y bydd yr Arglwydd yn cysgodi ac yn gwarchod y dyddiau hyn.

 

Da deall fod Ceinlys Jones, Bryn Derw wedi dychwelyd adref o’r ysbyty, a hyderwn ei bod yn cryfhau ac yn cael ei chynnal gan law’r Arglwydd.

 

Yr un modd cyflwynwn Elwy Owen, Buarth Bach i ofal yr Arglwydd, yntau wedi colli ei chwaer yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Hyderwn y bydd yntau hefyd yn ymwybodol, o’r ‘hedd na ŵyr y byd amdano.’

 

Cyhoeddiadau

 

Heddiw       

 

Byddaf yn arwain oedfa deuluol yn Llansannan am 10.00, gydag ysgol Sul y plant yn cychwyn tua 10.30. Mi fyddaf yn Tanyfron am 2.00. Heno am 6.00 yn Llansannan, oedfa wahanol iawn - Dathliad, lle byddwn yn cael cyfle mwy anffurfiol nag arfer i addoli’r Arglwydd gyda’n gilydd. Ben a Sioned Nuss fydd yn arwain y cyfarfod a byddaf innau yn agor y Gair. Cofiwch, os ydych heb oedfa, dewch i ymuno.

 

Oedfa weddi fydd yn Llannefydd am 10.00, Cefnberain am 2.00 a Llanfair am 5.30.

 

Bydd ysgolion Sul yn Nhanyfron am 9.00, Cefnberain am 10.00, Llanfair am 11.00, Llansannan am 11.10 a Llannefydd am 11.15.

 

Heno am 6.00 yn Llanfair Caereinion, mi fydd criw'r Sei@ yn arwain oedfa ieuenctid. Cofiwch amdanynt yn eich gweddïau.

 

 

Llun   

 

Mi fydd y grwpiau Adnabod yn cyfarfod yn y Granar gyda’i gilydd am 8.15.

 

 

Mawrth       

 

Ymestyn Ymlaen yn Llannefydd am 7.30

 

 

Mercher      

 

Sei@ yn Llansannan rhwng 4.30 a 6.00

 

 

Iau    

 

Cinio’r Jangl yn Llansannan am 12.00

 

Cwrdd plant Llansannan am 3.15

 

C.A.P. i’r merched iau yn Llansannan rhwng 6 a 7.30.

 

Pwyllgor blaenoriaid Llansannan am 7.00.

 

 

Sul nesaf     

 

Byddaf yn arwain oedfaon yn Llanfair am 10.00, ac yna oedfa fedydd yn Llannefydd am 2.00, (bu raid gohirio’r cyfarfod croesawu!!!) ac oedfa yng Nghefnberain am 6.00.

 

Wyn Davies, Eglwysbach fydd yn Llansannan am 10.00 a Tanyfron am 2.00 gyda cwrdd gweddi yn Llansannan am 6.00.

 

Bydd ysgolion Sul yn Nhanyfron am 9.00, Llannefydd a Chefnberain am 10.00, plant Llansannan am 10.30 o’r oedfa, Llanfair am 11.00 a Llansannan am 11.10.

 

 

 

 

Yn ôl un dudalen

  

Powered by Recipero Working together with BT