|
Llais Aled |
Dydd Sul, 14eg o Fedi 2008
Bore da a chroeso i oedfaon y dydd. Mae’n gychwyn tymor newydd yn hanes ein heglwysi, ac wrth inni edrych yn ôl, gallwn dystio i’r ffaith fod Duw wedi bod yn rhyfeddol o drugarog wrthym. Mae yna emyn sydd yn son am gael defnynnau o fendith, a’r un yw’r teimlad yma; ond gweddi’r emynydd yw - ‘beth am yr awr cawn fynd i’r môr.’
Cefais lyfr bach handi iawn ar fy mhen-blwydd, llyfr sydd yn edrych ar yr holl gwestiwn o ystyr addoliad a sut mae’r Cristion yn addoli Duw. Mae’n handi ar gyfrif dau beth, mae’n rhwydd i'w ddilyn, ac ar yr un pryd yn gosod allan beth sydd gan y Beibl i ddeud ar yr holl gwestiwn. Yn y penodau cyntaf mae’n ein hatgoffa ein bod yn byw ar ôl geni, bywyd, marwolaeth, atgyfodiad ac esgyniad Iesu. Pam fod hyn yn bwysig? Oherwydd yr ydym yn aml yn euog o ddod â phethau o’r Hen Destament, pethau oedd yn addas ar gyfer y Deml a’r offrymau oedd pobl i fod ei chyflwyno adeg hynny. Ond mae Iesu bellach wedi offrymu ei hunan drwy farw drosom unwaith ac am byth. D’oes dim angen i ni ddod â dim at Dduw ond ni ein hunain. Ar yr un pryd, d’oedd y deml ddim ond yn adeilad dros dro, adeilad lle’r oedd bobl yn mynd i gwrdd â Duw, ond bellach mae Iesu wedi dod atom ni. D’oes 'na ddim teml yn ystyr yr Hen Destament bellach, mae Duw yn dod atom ni yn Iesu, dyna lle’r ydym yn cwrdd ag Ef. Problem arall efo meddwl am y deml yw bod pobl yn meddwl mai rhywbeth yr ydych yn gwneud yno yn unig yw addoli. Dyna un o anawsterau mwyaf meddwl am ddod i’r capel fel oedd pobl yn arfer meddwl am fynd i’r Deml. Mae’n gwneud ein perthynas â Duw yn rhywbeth nawr ac yn y man. Mynd i oedfa, mynd i gwrdd byddwn ar y Sul ac ar adegau eraill, i gwrdd â phobl eraill, ac i adael i Dduw i ddod atom ni, drwy’r Beibl, drwy’r emynau, drwy’r gweddïau a drwy bregethu Gair Duw.
Y gwir plaen yw bod addoliad yn fywyd cyfan. Nid job dydd Sul yn unig yw addoli, nid yn gymaint chwaith ein hymdrech ni i gyrraedd Duw, ond dathlu gwaith Duw yn cyrraedd atom ni yn Iesu Grist, a’n hawydd i wrando arno ac i fyw bob dydd Iddo. Nid ble fyddwn yn mynd ar y Sul, beth fyddwn yn gwisgo, beth fyddwn yn ganu, ond yr hyn ydym, bob munud, bob dydd. Mae Paul yn crynhoi hyn inni:
Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich cyrff iddo fel aberthau byw – rhai sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! Rhufeiniaid 12:1.
Cofion
Bu llawer tro ar fyd dros yr wythnosau diwethaf, a nifer o amgylchiadau gwahanol wedi cyfarfod ag amryw yn yr ofalaeth. Yr wyf angen nodi ein bod yn parhau i gofio, ac yn cydymdeimlo gyda’r rhai sydd wedi bod mewn profedigaeth, ac yn cofio hefyd am y rhai a fu am amryw gyfnodau yn yr ysbyty, a rhai wedi derbyn llawdriniaeth.
Yr ydym yn cofio am brofedigaeth Dewi Williams ac Edgar Williams, Mary Davies a Geoff Thomas.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae Heddwyn Davies Bryn Cnap wedi cael llawdriniaeth yn ysbyty Abergele a Dion Pritchard Pant yr Onnen wedi cael triniaeth yn ysbyty Glan Clwyd. Estynnwn ein cofion hefyd at Rhiannon Evans, Megan Pritchard, Elwy Owen, Irwyn a Gwen Jones, Philip Owen, William Hughes a Geraint Davies. Wrth edrych ymlaen, mi fydd Eifion Evans yn cael llawdriniaeth ar hyn, a chyflwynwn ef a gweddill y rhai a enwyd yn ofalus gerbron gorsedd gras.
Cyhoeddiadau
Heddiw
-
Byddaf yn arwain oedfa gymun yn Cefnberain am 10.00 ac yn pregethu yn Llanfair am 2.00 a Llannefydd am 6.00.
-
Aneurin fydd yn Llansannan am 10.00 a 6.00 a Tanyfron am 2.00. Bydd ysgol Sul plant Llansannan yn cychwyn o’r oedfa.
-
Ysgolion Sul yn Tanyfron am 9.00, Llannefydd am 10.00, Llanfair am 11.00, Llansannan am 11.10 a Cefnberain am 2.00
Llun
-
Bydd cyfarfod o Christian Viewpoint ym Mae Cinmel am 7.30 yng nghwmni Nan Powell-Davies. Mwy o fanylion gan Sarah
-
Grŵp Adnabod Mair yn cwrdd yn y Granar am 8.15.
Iau
-
Cinio’r Jangl yn Llansannan am 12.00
-
Cwrdd Plant yn Llansannan a Llannefydd am 3.15.
-
Cwrdd gweddi i’r ofalaeth yn Llannefydd am 7.30.
Gwener
-
C.I.C. yn y Granar rhwng 7.30 a 9.15.
Sul nesaf
-
Byddaf yn arwain oedfaon yn Llansannan am 10.00 a 6.00(gydag ysgol Sul y plant tua 10.30) ac yn Tanyfron am 2.00.
-
John Owen fydd yn Llannefydd am 10.00, Cefnberain am 2.00 a Llanfair am 5.30.
-
Ysgolion Sul yn Tanyfron am 9.00, Cefnberain am 10.00, Llanfair am 11.00, Llansannan am 11.10 a Llannefydd am 11.15
Rhaghysbys
-
Bydd Cwrdd Blynyddol y Chwiorydd ym Mhrestatyn ar y 23ain yng nghwmni Tecwyn Ifan.