Llais Aled

 

Dydd Sul, 21ain Medi 2008

  

Bore da a chroeso i oedfaon y dydd. Wrth ddod i gwrdd â’n gilydd heddiw, gweddïwn y bydd y cyfarfodydd yn gyfle i annog ein gilydd, i ddysgu ein gilydd ac y byddwn yn y cyfan yn sylweddoli agosrwydd Duw yn Iesu Grist.

 

Er syndod mawr i mi, bu i’r rhan fwyaf ohonoch anghofio fy mhen-blwydd eto eleni. Mae hwnnw bellach wedi dod a mynd, a minnau yn teimlo fod y blynyddoedd yn carlamu yn eu blaenau, a heb fod yn cyflawni'r oll y byddwn yn dymuno ei wneud. Lleidr yw amser, ond rwyf yn ddiolchgar fod cymaint ohonoch yn parhau yn ffein iawn drwy beidio â nodi fy mod yn edrych yn hen gant! Dim tebyg i rywun y bu inni gwrdd ar ein gwyliau ddaru gymryd fod Sarah yn ferch imi!!

 

Dw’i ddim yn gwybod amdanoch chi, ond mi fydd yna ambell sylw yn llithro ambell waith sydd, petaech wedi meddwl yn ddigon gofalus, yn un na fyddech wedi breuddwydio ei ddweud. Byddaf yn sylwi ar ambell amgylchiad hefyd, a phawb yn eistedd yn ddedwydd yn cael sgwrs, ac yn sydyn mae yna gyfraniad sydd yn synnu a rhyfeddu pawb sydd yno. Mae hyn yn weddol pan yn anfwriadol, ond beth am y cyfraniadau, y geiriau bwriadol sydd yn dilorni, yn tanseilio hyder, yn chwalu cyfeillgarwch, yn rhwygo perthynas. Un o’r cynghorion gorau imi dderbyn wrth briodi oedd cofio fod arafwch i lefaru yn rhinwedd anghymharol.

 

Yn llythyr Iago mae yna eiriau sy’n fyw a perthnasol;

 

“Oherwydd y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma un perffaith, â'r gallu ganddo i ffrwyno ei holl gorff hefyd. Yr ydym yn rhoi'r ffrwyn yng ngenau'r march i'w wneud yn ufudd inni, ac yna gallwn droi ei gorff cyfan. A llongau yr un modd; hyd yn oed os ydynt yn llongau mawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, gellir eu troi â llyw bychan iawn i ba gyfeiriad bynnag y mae'r peilot yn ei ddymuno. Felly hefyd y mae'r tafod; aelod bychan ydyw, ond y mae'n honni pethau mawr. Ystyriwch fel y mae gwreichionen fechan yn gallu rhoi coedwig fawr ar dân.

 

Pa mor ofalus fyddwch chi efo’ch geiriau? Fyddwch chi’n edrych i adeiladu drwy siarad, neu yn edrych i ddymchwel? Ac o ble mae’r geiriau yma’n dod? Mae’n ddealladwy fod ambell i air anfwriadol, ambell i sylw all gael ei gam-ddehongli. Ond beth am y ffrwd yna sydd yn wastad yn negyddol? Mae’r gair olaf gan Iago eto;

 

“Ond am y ddoethineb sydd oddi uchod, y mae hon yn y lle cyntaf yn bur, ac yna'n heddychol, yn dirion, yn hawdd ymwneud â hi, yn llawn o drugaredd a'i ffrwythau daionus, yn ddiragfarn ac yn ddiragrith.

 

Geiriau yn dod o galon sydd o dan ddylanwad y nefoedd yw’r rhain. Pa ddylanwad sydd ar ein calon ni?

 

Cofion

 

Da deall fod Heddwyn Davies Bryn Cnap wedi dychwelyd adref ar ôl llawdriniaeth, a da ei weld yn edrych cystal. Dymunwn adferiad buan iddo.

 

Felly hefyd, dymunwn orau’r nef i Ceinlys Jones Bryn Derw, hithau wedi bod yn yr Ysbyty ond bellach adref. Hyderwn y bydd yn teimlo’n well ar hyn.

 

Yn Glan Clwyd y bu William Hughes Tyddyn Harries hefyd yn cael triniaeth a chyflwynwn yntau hefyd yn ein gweddïau i ofal Duw.

 

Mae’n gweddïau hefyd yn canlyn Eifion Evans Rhos Helyg wrth iddo yntau fynd i Broad Green am lawdriniaeth. Yr ydym yn gwybod y bydd ein Duw yn o’i flaen, ac y caiff adnabod ei nerth a’i gynhaliaeth yno.

 

 

Cyhoeddiadau

 

Heddiw         

 

Byddaf yn arwain oedfa deuluol yn Llansannan am 10.00, gydag ysgol Sul y plant tua 10.30. Byddaf yn Tanyfron am 2.00 a Llansannan am 6.00.

 

John Owen fydd yn Llanfair am 10.00, Llannefydd am 2.00 a Cefnberain am 6.00.

 

Bydd ysgolion Sul yn Tanyfron am 9.00, Llannefydd a Cefnberain am 10.00, Llanfair am 11.00 a Llansannan am 11.10.

 

 

Llun    

 

Adnabod Grwpiau Tai Elen a Ben am 8:00, Grŵp Mair yn y Granar am 8:15 

 

 

Mawrth       

 

Ymestyn Ymlaen yng Nghapel Llannefydd am 7:30 

 

Cwrdd Blynyddol y Chwiorydd ym Mhrestatyn yng nghwmni Tecwyn Ifan

 

 

Mercher      

 

Sei@ yr Ifanc yn Llansannan am 4:30

 

CAP i’r merched yn Llansannan am 5.00

 

 

Iau    

 

Jangl yn Llansannan am 12.00

 

Cyfarfod Plant yn Llansannan a Llannefydd am 3:15 

 

Henaduriaeth yn cyfarfod ym Metws yn Rhos am 6:00

 

Cwrdd Chwarter yng Nghapel Bethel, Yr Wyddgrug am 7:00.  Anerchiad gan Lywydd yr Undeb – Miss Margaret E Jones, Chwilog.

 

 

Gwener       

 

Penwythnos Ieuenctid yng Ngholeg y Bala. (Mwy o fanylion gan Elinor)

 

 

Sadwrn       

 

Cynhelir Ysgol Undydd Y Weinidogaeth Iachau rhwng 11:00 a 3:00. Byddaf yn arwain oedfa gymun am 2.00 ac mae croeso i bawb ymuno.

 

Sul nesaf      

 

Sul yr ofalaeth yn Llansannan – byddaf yn holi’r plant ar hanes y creu yn y bore am 10.00 ac oedfa eto am 6.00

 

Rhaghysbys

 

Hydref 4 Diwrnod i’r Brenin ar faes y sioe yn Llanelwedd rhwng 10.30 – 4.30 o’r gloch

 

  

Yn ôl un dudalen

  

Powered by Recipero Working together with BT