Llais Aled

 

Dydd Sul, 28ain Medi 2008

  

Bore da a chroeso i oedfaon Sul yr Ofalaeth. Mae’n dda iawn cael bod gyda’n gilydd, a gobeithio y bydd y cwmni yn foddion bendith i bob un.

 

Wrth feddwl am y tywydd braf yn ystod y diwrnodau diwethaf, rwyf bron â meddwl ei bod yn amser cael mynd am wyliau! Mae wedi bod yn hyfryd cael mwynhau’r haul ar ddiwedd Medi fel hyn, a phiti garw fy mod wedi hen bacio’r eli haul, neu efallai y byddai yna gyfle am damaid o liw! A beth sydd i ddweud am batrwm y tywydd? Mae’n sicr wedi bod yn ddigon gwlyb hyd yn hyn, braidd nad oedd pobl am gychwyn ar adeiladu Arch, jest bod yna enfys barhaus yn dod i’r golwg.

 

Gobeithio eich bod yn deall y sylw diwethaf yna. Mae’n siŵr eich bod yn cofio’r adnodau yn Genesis lle mae Duw, wedi'r dilyw, yn dweud wrth Noa y cai weld enfys yn yr awyr, a byddai’r enfys hwnnw yn arwydd ac yn sicrwydd nad oes 'na ddilyw arall i ddod. Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw â phob creadur byw o bob math ar y ddaear. Genesis 9:16.

 

Rwy’n cofio digon o’r amser yn yr ysgol i wybod mai pelydrau’r haul yn disgleirio ar y glaw sy’n achosi enfys. Dyma Duw, wrth i’r haul lewyrchu yn cofio ei gyfamod, ei gytundeb ag ef ei hun, i ddiogelu ei fyd i’r dyfodol. Prin yw’r golygfeydd sy’n rhagori ar ôl storm, neu law parhaus; gweld rhyw doriad yn y cymylau a’r haul yn dod drwyddo.

 

D’oes fawr o amheuaeth, beth bynnag fod yr amrywiaeth mewn tywydd, faint bynnag o hiraethu sydd am dywydd braf na ddaw haul eto, gwres eto, hyd yn oed os mai dim ond mewn bwlch yn y cymylau y daw. Cofiwch am yr enfys. Cofiwch yn arbennig pan mae'r cymylau yn hir yn symud, y tywydd yn eich erbyn, y storm yn dyfalbarhau. Roedd yr enfys i fod yn arwydd o ffyddlondeb Duw.

 

Taith anodd yw cerdded heb lewyrch yr haul, cerdded dan gymylau. Beth sydd i neud? Yn ôl Duw, edrych am yr hollt, edrych am yr enfys, a sylweddoli fod yna ddiwrnod yn dod, pan fydd yr awyr yn ddigwmwl. Roedd Cristnogion yr Eglwys fore yn gwybod am bob math o ddioddefaint ac erlid, a dyma air Pedr iddynt: Y mae hyn wedi digwydd er mwyn i ddilysrwydd eich ffydd chwi, sy'n fwy gwerthfawr na'r aur sy'n darfod - ac y mae hwnnw'n cael ei brofi trwy dân - gael ei amlygu er mawl a gogoniant ac anrhydedd pan ddatguddir Iesu Grist. 1 Pedr 1:7. Mae Paul yn atgoffa’r Rhufeiniaid ymhellach: Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. Rhufeiniaid 8:28. Ac yna wrth gwrs mae canrifoedd o hanes, canrifoedd o brofiadau, profiadau fel profiad George Matheson:

 

O gariad na'm gollyngi i, gorffwysfa f'enaid ynot sydd; ....
'rwy'n gweld yr enfys drwy y glaw, yn ôl d'addewid gwn y daw
diddagrau fore llon.

 

Cofion

 

Danfonwn ein cofion heddiw, at Ceinlys Jones Bryn Derw a Charles Roberts Penbrynllan, y ddau yn Ysbyty Glan Clwyd. Cyflwynwn y ddau i ofal yr Arglwydd, gan hyderu y byddant yn cael eu diogelu a’u cadw'r dyddiau hyn.

 

Diolchwn i Dduw fod Eifion Evans Rhos Helyg, Erin Gwyn Rossington Gilfach, ac Elwy Owen Buarth Bach wedi dychwelyd adref ar ôl cyfnodau yn yr ysbyty. Cyflwynwn bob un o’r rhain a’u teuluoedd i ofal yr Arglwydd, gan ddiolch am y sicrwydd ei fod yn gwrando’n gweddïau, ac am addewid O’i ffyddlondeb.

 

 

Cyhoeddiadau

 

Heddiw

 

Bydd yr oedfaon yn Llansannan am 10.00 a 6.00, gyda phaned yn dilyn oedfa’r bore. Mi fydd Arfon Wynne yno hefyd gyda nwyddau Tearfund a Gwenan Roberts gyda deunydd masnach deg. (Gofynnwch am gael talu eto os ydych yn brin!)

 

Llun

 

Adnabod - grwpiau Ben ac Elen yn cwrdd am 8.00 a grŵp Mair yn y Granar am 8.15.

 

Mawrth

 

Ymestyn Ymlaen yn Llannefydd am 7.30.

 

Mercher

 

Sei@ yr ifanc rhwng 4.30 a 6.00

 

Cymdeithas Undebol Llanfair am 7.30 yng nghwmni Geraint a Beti Roberts Dinbych a Glyn Roberts Brynffordd.

 

Mae darlithoedd DAWNCYMRU yn ail-gychwyn, mae amserlen ar gael ar wefan yr Ofalaeth neu gennyf i, os oes rhai ohonoch yn awyddus i weld beth yw’r arlwy.

 

Iau

 

Cinio’r Jangl am 12.00 yn Llansannan

 

Cwrdd plant yn Llansannan am 3.15

 

CAP i’r merched ieuanc yn Llansannan rhwng 6.00 a 7.30

 

 

Gwener       

 

C.I.C. yn Llansannan rhwng 7.30 a 9.15

 

Gwen/Sad   

 

Deuddydd arbennig yn dysgu mwy am weddi, yng Ngholeg y Bala. Mwy o wybodaeth gan Haf Evans, Tan y Graig – 01678 520565

 

 

Sadwrn       

 

Diwrnod i’r Brenin, dathliad Cristnogol yn Llanelwedd. Os ydych yn dymuno mynd mae ‘na fws am ddim. Manylion gan Mair Owen

 

 

Sul nesaf     

 

Byddaf yn Llansannan am 10.00 a 6.00 a Tanyfron am 2.00. Mi fydd oedfa’r nos yn ‘Ddathliad’ lle y byddwn yn cael cyfle i fod yn fwy anffurfiol ac yn gyfle ardderchog i wahodd ffrindiau. Mae hwn am fod yn gyfarfod rheolaidd bob mis yn yr Ofalaeth, a gobeithio y bydd unrhyw un sydd heb oedfa’r un pryd yn eu capel yn teimlo’n rhydd ac awyddus i ymuno.

 

Mae oedfaon yn Llannefydd am 10.00, Cefnberain am 2.00 a Llanfair am 5.30.

 

Bydd ysgolion Sul yn Tanyfron am 9.00, Cefnberain am 10.00, plant Llansannan tua 10.30, Llanfair am 11.00, Oedolion Llansannan am 11.10 a Llannefydd am 11.15.

 

 

Iau y 9fed

 

Cwrdd Blaenoriaid Llansannan am 7.30

 

 

Sul y 12fed

 

Oedfa arbennig yn y prynhawn i nodi cychwyn blwyddyn newydd DAWNCYMRU ac i groesawu’r myfyrwyr, yn Llannefydd am 2.00.

  

  

Yn ôl un dudalen

Powered by Recipero Working together with BT