Calendr Gweddi
|
Medi 29 Gweddïwch dros y grwpiau adnabod; am ddoethineb i'r arweinwyr a chalon agored i'r rhai fydd yn mynychu. Diolch i Dduw am y ffordd y mae wedi defnyddio'r grwpiau. |
Hydref 6 Mae criw pwyllgor LLANW yn cyfarfod heddiw i drefnu ar gyfer LLANW 2009. Diolchwch i Dduw am ei gwneud hi'n bosib i gynnal yr ŵyl eto a gweddiwch am ei fendith ar y paratoadau. |
|
Medi 30 Mae'n ddiwrnod prysur heddiw...cofiwch am Ymestyn Ymlaen, noson Adnabod yn Rhos a chlwb plant Rhos yn cychwyn. Gweddiwch y bydd Duw yn bresenol yn y cyfarfodydd. |
Hydref 7 Gweddïwch dros blant a phobl ifanc yr ardal, y byddan nhw yn dod i adnabod Duw fel ffrind ac Arglwydd. |
|
Hydref 1 Gweddïwch dros y bobl ifanc; dros Sei@ heno a CAP nos yfory. Diolchwch i Dduw am y ffordd mae wedi bod yn gweithio yng nghalonnau a bywydau yr ieuenctid. |
Hydref 8 Cofiwch am y rhai hynny sydd wedi mynd yn ôl i'r colegau ar ddechrau blwyddyn arall. Gweddïwch y bydd Duw yn eu gwarchod nhw a'u cadw nhw'n saff. |
|
Hydref 2 Heddiw, cofiwch am glwb plant yn Llansannan ar ôl yr ysgol. Mae heddiw yn gyfle i gofio am aelodau o'r eglwys a'r ardal sydd mewn angen. Gweddïwch y byddent yn profi Duw yn agos. |
Hydref 9 Diolchwch am Ginio Jangl fel cyfle i gael cwmni, bwyd a sgwrs. Diolchwch am Olwen a'r criw am fod mor barod i sicrhau fod hyn ar gael bob wythnos. |
|
Hydref 3 Gweddïwch dros y rhai sydd yn paratoi ar gyfer noson CIC heno. Diolchwch i Dduw am eu parodrwydd i roi o'u hamser a'u hegni i waith yr eglwys hefo'r ieuenctid. |
Hydref 10 Ar ddiwedd wythnos waith arall, gweddïwch dros y rhai sy'n gweithio yn agos hefo chi sydd ddim eto yn adnabod yr Arglwydd. Gweddïwch am gyfle i rannu'r newyddion da. |
|
Hydref 4 Gweddïwch dros Meirion wrth iddo siarad ar 'Gynhaeaf Duw' yng ngŵyl deulu'r Annibynwyr draw yn Llanelwedd- am siwrne saff iddo a bendith ar y Gair fydd ganddo i'w rannu. |
Hydref 11 Gweddïwch dros waith caled staff Coleg y Bala ac am eu hymroddiad i'r gwaith. Cofiwch am Meirion wrth iddo ymwneud â gwaith Adran Gwasanaeth Plant a Ieuenctid yno heddiw. |
|
Hydref 5 Gweddïwch yn arbennig am oedfa'r hwyr 'Ar y 1af' yn Llansannan heno a hefyd am griw hogiau'r Sei@ fydd yn arwain oedfa yn Llanfaircaereinion. |
Hydref 12 Gweddïwch yn arbennig dros oedfa groesawu myfyrwyr DAWN CYMRU ac y bydd Duw yn defnyddio nhw mewn ffordd arbennig dros y flwyddyn nesaf. |