Capel Soar, Llanfair Talhaiarn
Pentref Llanfair Talhaiarn |
Gweinidog:
Parch Meirion Morris, Llansannan
Blaenoriaid:
Mr R J Davies (1959-79; 1989-)
Mrs E Mary Williams (1980)
Mrs A P Evans (1993)
Mrs Joyce Lloyd (1993)
Nifer yr aelodau 48
Nifer y plant 14
Cyfanswm 62
Pentref hynafol ar lan yr afon Elwy yw Llanfair Talhaiarn. Adeiladwyd Eglwys Soar yn y flwyddyn 1830. Cynhelir o leiaf un gwasanaeth y Sul yno, ynghyd â'r Ysgol Sul, a phob yn ail Sul, byddwn yn cydaddoli â'r Bedyddwyr a'r Wesleiaid yng Nghapel Hyfrydle.
Mae gennym 'Gymdeithas y Merched' sydd erbyn hyn wedi ymuno â'r Gymdeithas Undebol sy'n cyfarfod o fis Hydref i fis Ebrill ar nos Fercher cynta'r mis gan gyfleu perthynas glos yng nghwmni ein cydaddolwyr.
Cynhelir Eisteddfod o dan nawdd aelodau Soar yn flynyddol. Bu i'r Eisteddfod gyntaf gael ei chynnal ar Fai 14, 1932 ac mae'n parhau i ddal ei thir gan roi cyfraniad diwylliannol i'r pentref a'r fro.