Amdanom ni

Mae Gofalaeth Aled yn rhan o Ddosbarth Aled o fewn Henaduriaeth Dyffryn Clwyd.  Ceir ynddi bump eglwys Bresbyteraidd: 

  • Eglwys Unedig Llansannan
  • Tanyfron
  • Llannefydd
  • Cefnberain
  • Soar, Llanfair Talhaiarn

yn ogystal ag un eglwys Annibynnol, sef aelodau Capel Hiraethog, Llansannan sydd yn cydaddoli gyda'r Presbyteriaid yng Nghapel Coffa Henry Rees ac sydd, er y flwyddyn 2000, yn cael eu hadnabod fel Eglwysi Unedig Llansannan.

 

Daeth ein gweinidog, y Parch Meirion Morris, i'r Ofalaeth wledig hon yn 1991.  Bryd hynny roedd eglwys Betws yn Rhos yn rhan o'r Ofalaeth ac eglwysi Llannefydd a Chefnberain yn Nosbarth Dinbych.  Yn 2001 y ffurfiwyd yr Ofalaeth bresennol sydd â 493 o aelodau a 34 ohonynt yn flaenoriaid neu ddiaconiaid. 

  

Mae ein gweinidog, Meirion, a'i wraig, Sarah, yn weithgar iawn o fewn yr Ofalaeth ac rydym yn ffodus iawn o'r arweiniad a gawn ganddynt.  Ar hyn o bryd cynhelir, yn wythnosol, Astudiaeth Feiblaidd a Chyfarfod Gweddi i'r Ofalaeth, Cyfarfod i'r Plant yn Llansannan a Llannefydd, a Jangl (sef cinio a sgwrs) i'r rhai hþn yn Llansannan, a phob pythefnos cynhelir C.I.C. (Clwb Ieuenctid Cristnogol) i'r Ofalaeth, Jangl yn Llannefydd, ynghyd ag Astudiaeth Feiblaidd ar gyfer y merched iau yn Llansannan.  Mae'n braf bod nifer dda yn mynychu ac yn gwerthfawrogi yr holl gyfarfodydd rheolaidd hyn.  Ond wrth gwrs, mae croeso i fwy ymuno â ni...!

 

Cewch wybod mwy am hanes yr Ofalaeth mewn rhannau eraill o'r wefan.  Gobeithio y cewch flas yn pori'r safle.

 

Os oes gennych unrhyw sylwadau yr hoffech eu cyflwyno, byddem yn falch iawn o glywed gennych. 

                                                                       

Gweinidog:

Parch Meirion Morris

Heulfryn

Llansannan

DINBYCH 

LL16 5HR 

(01745 870601

È07799 738181

 mmorris3@btinternet.com


Ysgrifennydd yr Ofalaeth:

Mair Owen

Bryn Goleu

Llansannan

DINBYCH

LL16 5LF

(01745 870632 

201745 870617

 È07900 627536   

8 mair@bryngoleu91.plus.com


Trysorydd yr Ofalaeth:

David Ll. Williams

Penbryn Llan

Llannefydd

DINBYCH

LL16 5EA

(01745 540243

 

Yn ôl i'r dudalen flaen

(neu ymlaen trwy glicio ar y botymau hirsgwar gwyrdd sydd ar chwith y dudalen )

 

Powered by Recipero Working together with BT